Bywyd gwyllt y dref
Mae’n saffari bywyd gwyllt ar fin cychwyn. Ond cyn hynny,
dyma ychydig o ffeithiau difyr am hanes y gamlas.
Cychod cyflym
Llwybr cludiant oedd y gamlas yn wreiddiol. Byddai
cychod wedi’u tynnu gan geffylau yn mynd ar ei hyd, gan gario nwyddau yn union
fel trenau a lorïau heddiw. Roedd teithwyr yn cael eu cludo ar gychod cyflym
iawn wedi’u tywys gan geffylau trotian. Roedd rhaid i bawb symud o’r neilltu’n
sydyn iawn!
Pontio
Byddwch yn pasio pedair pont, pob un â rhif ar ei
hochr. Os bydd damwain, gallwch roi rhif y bont i’r gwasanaethau brys er mwyn
iddyn nhw ddod o hyd i chi.